Rydw i wedi bod yn disgwyl i weld Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd ers 45 o flynyddoedd. Mae’r golled i’r Alban ar y noson hyll yna yn Anfield yn 1977 yn un o fy atgofion cynnar. Ers hynny rydw i wedi dioddef siom ar ôl siom tan y flwyddyn yma. Mae’r bachgen 10 mlwydd oed oedd yn crio pan lawiodd Joe Jordan y bêl wedi troi yn ddyn canol oed erbyn hyn. Fel rhywun sydd wedi rhoi pêl-droed yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau bywyd am bron hanner canrif, mae hwn yn meddwl lot i mi.
Wrth gwrs, byse well gyda fi bod y twrnament yn cael ei chwarae yn rhywle gwahanol i Qatar. Rydyn ni gyd yn deall sut mae FIFA yn gwneud y penderfyniadau yma. Ac os ydych chi ddim, mae yna gyfres ddifyr iawn ar Netflix ar hyn o bryd.
Ond yn waeth na’r llygredd, mae’r twrnament yn digwydd rhywle sydd ddim yn agored i bawb. Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn Qatar ac mae hynny yn rheswm ddigon mawr i rai beidio mynd yna. Mae gen i ffrind sy’n hoyw sydd ddim yn mynd oherwydd hynny. Mae gen i ffrind hoyw arall sydd yn mynd i’r twrnament ac mae’n torri calon fi bod rhaid iddi hi ddelio gyda hyn i gyd.
Yn ymarferol rydw i’n meddwl y bydd y twrnament a’r daith yn hwylus. Bydd yna filiwn o gefnogwyr o bob cornel o’r byd yn cymysgu, ac rydw i’n disgwyl bydd pobl werin Qatar yn groesawgar iawn. Bydd hi’n daith gostus ac yn hollol wahanol i’r arfer. Ond mae’r hanner canrif o ddisgwyl bron drosodd ac rydw i’n cael trafferth canolbwyntio ar unrhyw beth ond Cwpan y Byd ar y funud.
Mewn ychydig ddyddiau fydda i yn Stadiwm Ahmad Bin Ali yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ac o’r diwedd fedra i anghofio am Joe Jordan, a mwynhau’r teimlad bod ein hamser ni wedi cyrraedd.