Rywle yng nghefn fy meddwl, roeddwn i’n ymwybodol o gyfres o’r enw How Green Was My Valley roedd y BBC wedi’i chynhyrchu nôl yn Oes yr Arth a’r Blaidd.

Roedd hi yn y rhan honno o’r ymennydd sy’n storio delweddau o Gymru sy’n codi cywilydd ac yn peri embaras, yn bortread rhamantus gan bobol o’r tu allan, o wlad nad ydyn nhw’n ei deall. Yn un llawn ystrydebau am gymunedau glofaol cymoedd y de yn Oes Fictoria.