Os nad oeddech chi wedi sylweddoli’n barod, fe ddylai amserlen pob sianel deledu dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf fod yn ddigon i ddweud wrthych chi fod Cwpan y Byd ar y gorwel! Dw i ddim yn cwyno am yr arlwy hwnnw ond mae hi’n dipyn o job dal y cwbl. A gan fod nifer o’r rhaglenni yn ymdrin â’r un peth yn y bôn, mae’n hawdd drysu rhyngddynt ac mae’r cwbl yn toddi’n un braidd.