Ges i fy rhyfeddu’r wythnos yma o glywed bod rhai pobl yn cwestiynu os oes yna le i Chris Gunter yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar. Doeddwn i yn methu credu beth yr oeddwn i’n ei glywed.

Rydw i’n ysgrifennu’r golofn yma cyn cyhoeddi’r garfan [ar 9 Tachwedd], ond os na chafodd Chris Gunter ei gynnwys yn y garfan derfynol a gafodd ei chyhoeddi mewn cynhadledd i’r Wasg yn Tylerstown Welfare Hall ddydd Mercher, fydda i yn bwyta fy het bwced.