Yr wythnos hon rwy’n llwyfannu sioe newydd o’r enw The MotherSh*t yn Theatr y Pleasance yn Llundain gyda’r cwmni StumbleTrip.

Mae’n sioe sy’n gymysgedd o waith meim, clown, theatr gorfforol, dawns, celf a beatboxing… cymysgedd eithaf anarferol, rhaid dweud!

Wrth baratoi’r sioe, fe wnaeth y cwmni wneud dros 50 o gyfweliadau gyda phobl ynglŷn â’u perthynas gyda’u mamau, gan ofyn beth mae bod yn fam yn ei olygu iddyn nhw; y pethau da, y drwg a’r hyll.