Diodydd yn gyntaf, yn un o neuaddau mawreddog y gwesty. Mae’n bwysig fod pobol yn siarad, ond yn bwysicach fyth nad oes unrhyw un yn edrych fel petaen nhw’n mwynhau eu hunain o flaen y camera. Bu’r gwleidyddion yn ymarfer eu hwynebau consyrn ar hyd eu gyrfaoedd – dyma’r ffordd i osod eich gwyneb pan fydd trasiedi, neu pan fydd aelod o’r teulu brenhinol yn marw, neu pan fydd y byd yn llosgi. Llygaid llawn difrifoldeb a cheg syth. Hyd yn oed dros swper bendigedig gydag arweinyddion eraill, mae’n b