Dathlodd S4C ei phen-blwydd yr wythnos diwethaf gan ddechrau nos Fawrth gydag ail ddarllediad o’r ddrama ddogfen o 2012, Gwynfor Evans: Y Penderfyniad a phennod newydd o Plant y Sianel. Y cymal diweddaraf ar daith Beti George i ymweld â rhai o ‘blant y sianel’ oedd hon, wedi iddi wneud hynny pan oedd S4C a’r unigolion hynny’n 10, 20 a 30 oed hefyd. W’chi, yr un syniad â’r dyn mwstash ’na ar y bîb.