Mae yna gyswllt trist o eironig rhwng dwy stori fawr wleidyddol yr wythnos – ymfudwyr a newid hinsawdd. I raddau helaeth yr un ydi’r ddwy. Ac annhegwch sydd wrth eu gwraidd.

Allai rhybudd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddim bod yn gliriach – mae gwledydd y byd yn methu cyflawni eu haddewidion amgylcheddol ac mae dynoliaeth yn gyrru’n gynt a chynt tuag at ei difancoll ei hun.