Un o ganlyniadau penodi Charles yn frenin a William yn dywysog i Gymru yw sbarduno trafodaeth bellach am yr Undeb.

Fe welwyd digon o ddinasyddion dewr yn dal arwyddion megis ‘Not my King’ tra’n sefyll ymhlith torfeydd o bobl yn croesawu’r Brenin newydd wrth iddo deithio Gwledydd Prydain.

Mae’n debyg y gwelwn y drafodaeth yn codi stêm wrth i’r ffocws newid o angladd Elizabeth i goroni Charles – tra’n dilyn proses ffurfiol yng nghyswllt William, ein tywysog (it says here…).