Mae Pacistan yn boddi, ond mae’r radio bach yn y gegin yn ailgylchu straeon am alar un teulu enwog. Mae cartrefi a chaeau ac ysgolion a phobol ar goll dan ddŵr, ond dim ond llif o ymwelwyr yn aros mewn ciw llwyd, araf sydd ar sianel newyddion y teledu. Mae coedwigoedd a fu’n llosgi dan haul annioddefol ychydig fisoedd yn ôl bellach yn Gantre’r Gwaelod, yn dystiolaeth byw, brawychus o dywydd y byd yn simsanu. Ond mae’r papurau newydd yn dangos enwogion mewn du yn camu oddi ar awyrennau, wedi dod