Wrth i garfan Rob Page baratoi i herio’r Belgiaid heno, mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl hon er mwyn i bawb gael mwynhau’r arlwy.
Cyn y gic gyntaf ym Mrwsel, Gwilym Dwyfor sy’n bwrw golwg ar bwy sy’n debygol o fod ar yr awyren i Qatar…
Wrth i chi ddarllen hwn, rydw i a thua dwy fil a hanner o gefnogwyr Cymru ar y ffordd i Frwsel (eto!) i ffurfio Wal Goch yn Stadiwm y Brenin Baudouin. Y gêm honno yng Ngwald Belg a’r gêm gartref yn erbyn Gwlad Pwyl ddydd Sul fydd gemau olaf Cymru cyn y daith hanesyddol i Qatar fis Tachwedd. Cyfnod holl bwysig felly i Robert Page a’i chwaraewyr wrth i ymgyrch gyntaf Cymru yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd ddirwyn i ben.
Dechreuodd Page yr wythnos diwethaf yn arwyddo cytundeb newydd a ddylai ei gadw wrth y llyw tan 2026. Dyma drefniant sydd yn gweithio’n dda i bawb. O safbwynt Page, mae o a’i gynrychiolwyr yn gwneud y peth call yn sicrhau cytundeb newydd cyn Cwpan y Byd. Ac o ran y Gymdeithas Bêl-droed, pam na fyddent eisiau cadw gafael ar y dyn sydd wedi ein harwain i 50% o’r holl gystadlaethau mawr yr ydym wedi eu cyrraedd yn ein hanes?
Camodd Page i’r adwy ar amser anodd iawn ac mae’n haeddu cytundeb swmpus o’r diwedd ar ôl gwneud y swydd ‘dros dro’ am gyfnod mor hir ar y dechrau. Rhai o’r rhinweddau a fyddai wedi apelio at y Gymdeithas fyddai teyrngarwch a natur ddibynadwy’r rheolwr a’r union nodweddion hynny sy’n golygu nad oes byth lawer o syrpreisys wrth iddo enwi carfan. Nid yw Page yn un am ysgwyd y drol yn ormodol.
Gorffennodd yr wythnos diwethaf yn enwi ei garfan ar gyfer gemau Gwlad Belg a Gwlad Pwyl, a chafwyd awgrym wrth iddo siarad â’r wasg na fydd llawer o wahaniaeth rhwng y garfan ddiweddaraf hon â’r gofrestr ar gyfer yr awyren i Doha fis Tachwedd. “Dim newidiadau drastig” oedd ei union eiriau.
Roedd yr ymateb at Twitter, fel gydag unrhyw gyhoeddiad carfan, yn ddisgwyliadwy. Pawb yn meddwl eu bod yn gwybod yn well. Ond mae’n anodd dadlau gyda record Page ac mae’r arddull hwn o newid cyn lleied â phosib wedi gweithio’n dda hyd yma.
Roedd un syrpreis mawr serch hynny wrth i chwaraewr dwy ar bymtheg mlwydd oed Fulham, Luke Harris, gael ei gynnwys. Efallai fod yr union enw yn annisgwyl ond os oedd un safle ble roedd hi’n fain ar Gymru y tro hwn, y rhif deg oedd hwnnw, rhywun gydag ychydig o greadigrwydd ar y bêl i chwarae yn y bwlch canolog rhwng canol cae a’r ymosod.
Gydag Aaron Ramsey, Harry Wilson a David Brooks i gyd yn absennol mae’n naturiol fod Page am asesu ei opsiynau, rhag ofn. Mae hyd yn oed rhywun fel Josh Sheehan, sydd wedi ffitio’r brîff hwnnw mewn carfanau yn y gorffennol, allan ers bron i flwyddyn bellach gydag anaf cas.
Ond wrth gwrs, pan gaiff hogyn ifanc gyda dim ond 45 munud o bêl-droed tîm cyntaf yn ei goesau ei enwi, mae’n naturiol y bydd rhes o chwaraewyr ymosodol mwy sefydledig yn siomedig. Gallaf enwi deuddeg o dop fy mhen; Chem Campbell, Marley Watkins, Tom Lawrence, Ryan Hedges, Ben Woodburn, Cameron Congreve, Liam Cullen, Oli Cooper, Tom Bradshaw, George Thomas, Jack Vale a Nathan Broadhead.
Ond mae’n hawdd sgwennu rhestr dydi. Oni bai eu bod ddigon da i fynd yn syth i mewn i’r tîm, waeth i’r lle yn y garfan gael ei roi i hogyn ifanc awchus ddim, rhywun sydd â’r potensial i gyrraedd yr un ar ddeg cyntaf yn y dyfodol. “Os ydw i’n meddwl eu bod ddigon da, fe gânt ddod i mewn i fod yn rhan o’r amgylchedd” medd Page.
Ac yn fy marn ddibwys i, Hedges, Lawrence a Cooper yw’r unig dri sydd â hawl i fod braidd yn siomedig mewn gwirionedd. Mae Cooper yn ifanc ac fe ddaw ei gyfle o, dw i’n siŵr iddo ddod reit agos y tro hwn. Ond â hwythau’n hŷn, mae’n amlwg bellach nad yw Page ffansi Hedges a Lawrence er gwaethaf dechrau da i’r tymor gyda Blackburn a Rangers.
Gwlad Pwyl ar y gorwel
O ran safleoedd eraill, Lee Evans a Tom Lowery oedd fy top tips i bythefnos yn ôl ond sticio efo Joe Morrell a Matthew Smith yng nghanol cae a wnaeth Page, Capten Cysondeb. A bydd yn rhaid i’r ddau ohonynt chwarae eu rhan wedi i Joe Allen orfod tynnu allan o’r garfan ar ôl dioddef anaf yng ngêm Abertawe dros y penwythnos. Mae Morrell a Smith yn chwaraewyr cymaint gwell i’w gwlad nag i’w clybiau ac mae Page yn gwybod hynny. Er, i fod yn deg, Morrell a greodd y gôl hwyr a achubodd bwynt i Portsmouth yn erbyn Plymouth ddydd Sadwrn.
Ymuna Allen â rhestr anafiadau sydd yn cynnwys Ramsey, Wilson a’r gôl-geidwad, Adam Davies. Fe ddaw Rambo a Wilson yn syth nôl i mewn i’r cynlluniau unwaith y byddan nhw’n holliach eto. Felly hefyd Davies siŵr o fod oni bai bod Tom King, sydd i mewn yn ei le o’r tro hwn, yn gwneud rhywbeth rhyfeddol ar y cae ymarfer dros y diwrnodau nesaf. Er cael ei enwi’n wreiddiol, mae Ben Davies allan hefyd ar ôl torri asgwrn bach yn ei ben glin yng ngêm Spurs yn erbyn Sporting Lisbon wythnos diwethaf. Cyfle i Ben Cabango a Rhys Norrington-Davies frwydro am ei safle ar ochr chwith yr amddiffyn dros y dyddiau nesaf.
Mae Ethan Ampadu yn opsiwn amddiffynnol hefyd wrth gwrs, dyna le mae o wedi dechrau ei ddwy gêm gyntaf i Spezia yn yr Eidal. Er, bu ond y dim iddo sgorio gôl gyntaf ei yrfa mewn buddugoliaeth yn erbyn Sampdoria dros y penwythnos!
Gwell fyddai i Gymru ddibynnu ar rai fel Brennan Johnson a Gareth Bale am ein goliau er mor brin y bu’r rheiny i’w clybiau’r tymor hwn. Dim ond dwy sydd gan Johnson i Nottingham Forest, sydd tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr, ond fe wnaeth o greu un yn y golled yn erbyn Fulham nos Wener.
Yn sownd ar ddwy y mae Bale i LAFC yn yr MLS hefyd. Parhau i ymddangos oddi ar y fainc ym mhob gêm y mae o gan gynnwys y gêm ddiweddaraf yn erbyn Houston Dynamo yn oriau mân bore Llun. Go brin y gwelwn ni lawer ohono fo ym Mrwsel felly. Ond o leiaf fe fydd o’n ffres i sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Gwlad Pwyl ddydd Sul!
Gwlad Belg v Cymru yn fyw ar S4C heno (Iau, 22 Medi), y gic gyntaf am 7.45
Cymru v Gwlad Pwyn yn fyw ar S4C nos Sul (25 Medi), gyda’r gic gyntaf am 7.45