Un tro, roedd yna athro diwyd o Sir Benfro a gafodd ei ddenu i fyd y chwedlau a’r tylwyth teg…

Adrodd chwedlau yw bara menyn Phil Okwedy. Ers pum mlynedd bellach mae’r cyn-athro o Ddoc Penfro yn storïa yn broffesiynol. Dysgodd pan oedd wedi hen droi yn 50 oed fod ganddo ddawn i adrodd stori ar ei gof wrth wneud ymarferion gyda’r plant.