Bydd Dyfan Roberts i’w weld ar S4C heno yn actio ‘Gronw’ yn y gyfres ddrama deledu sy’n addasiad o’r nofel Dal y Mellt gan Iwan ‘Iwcs’ Roberts.

Ac mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar ei gyfweliad yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg, i bawb gael blas ar yr arlwy…

 

Sut foi ydy Gronw?

Mae o yn ei saithdegau, yn byw ar ben ei hun yn ei ffarm Bryn Gloch ym mryniau de Sir Gaernarfon. Mae ei wraig, Carmella, Eidales o dras, wedi marw ers rhai blynyddoedd, ac mae ei ddau blentyn, Dafydd Aldo ac Antonia, wedi hedfan y nyth erstalwm. Ar wahân i ymweliad wythnosol â’r dafarn leol am gêm o gardiau ac ambell sgwrs efo Gwilym Postman,  digon unig yw bywyd Gronw.

Mae ganddo amser i fynd am dro efo’i gi neu ar gefn ei geffyl, amser i edrych ar  y bryniau a melltithio’r tywydd, a digon o amser i fyfyrio ar y gorffennol. Yn troi yn ei feddwl drosodd a throsodd mae’r cam mawr a wnaed â’i deulu, yn enwedig ei frawd druan, gan ryw giang creulon o Lundain, nes esgor yn araf ar gynllun manwl a beiddgar i dalu’r pwyth. Dyma sydd wedi bod yn ffrwtian yn ei ben ers blynyddoedd.  Bellach, gyda help ei blant, hen ffrindiau o ymylon cymdeithas, a bachgen ifanc gwyllt o’r ardal o’r enw Carbo, mae’n bryd rhoi’r cynllun ar waith…

 

Wnaethoch chi ddarllen Dal y Mellt?

Mi ddarllenais nofel Iwcs wedi i mi glywed eu bod am wneud addasiad ohoni, a’i chael yn ddifyr, cyffrous a ffres iawn. Ddarllenais i ddim byd tebyg yn y Gymraeg. Mae hi’n carlamu mynd, yn delio gydag is-fyd lladron a dihirod a chynllwyn dialgar, tra ar yr un pryd wedi ei gwreiddio’n gwbwl gredadwy yn y gymdeithas Gymreig. Mae hiwmor hefyd yn britho’r ddeialog, a’r cymeriadau yn rhai hawdd iawn eu hadnabod a chymryd atynt.

 

Dw i’n adnabod Iwcs ers blynyddoedd maith. Mae’n dod o’r un sir â mi – yr hen Sir Feirionnydd- a bu fy mrawd [Arfon Gwilym] yn ei gynhyrchu mewn dramâu yn nyddiau ysgol Iwcs yn Nhrawsfynydd. Mae’n un sgwrslyd, doniol ac yn sgwennwr wrth reddf. Er ei adnabod fel cyfansoddwr caneuon a chanwr, mae ei dalent lenyddol a’i ddyfalbarhad wedi esgor ar rywbeth gwreiddiol a Chymreig yma sy’n mynd i apelio’n fawr at gynulleidfa yng Nghymru a thu hwnt, dw i’n meddwl.

     

Faint o amser aeth heibio ers i chi fod ar deledu ddiwethaf?

Wel wir, ychydig iawn o actio ar deledu rydw i wedi gwneud ers blynyddoedd, rhaid dweud.

Mi’r oedd yna gyfnod tua 2008 pan nad oedd unrhyw gynigion yn dod i mewn o gwbwl, ac mi gymerais swydd naw tan bump  yn rhedeg rhaglen artistig dros bum mlynedd ym Mhrifysgol Bangor, gan ddyfeisio enw arni… PONTIO!

Ers 2014 y llwyfan sydd wedi llenwi’r bwlch, ac roeddwn i’n falch o ddychwelyd at y bôrds gyda Theatr Bara Caws a’r Theatr Genedlaethol i wneud cynyrchiadau o safon- fel Pum Cynnig i Gymro, a Y Tad. Bûm hefyd yn perfformio yn Saesneg – peth newydd yn fy hanes! – gyda chwmni o’r Iseldiroedd yng ngŵyl theatr awyr-agored fwyaf Ewrop ar ynys ger Friesland, a chyda National Theatre Wales mewn sioe bromenâd fawr ar thema ffoaduriaid yn Ninbych y Pysgod. Yn ddiweddar bûm hefyd yn gwneud dwy ddrama gan Aled Jones Williams gyda Theatr Bara Caws – cwmni arall y dyfeisiais yr enw arno, digwydd bod!

 

Beth oedd eich rhan actio gyntaf?

Ar wahân i’r Brenin Herod yn nrama Nadolig Ysgol Arthog, a oedd yn bractis da ar gyfer chwarae Hitler yn nes ymlaen yn fy ngyrfa, fy rhan gyntaf oedd milwr ym myddin Henry V yn y ddrama o’r un enw yn Ysgol y Gader, Dolgellau.

Hon oedd y School Play flynyddol, a minnau yn chwysu mewn penwisg chain-mail wedi ei gweu o wlân a’i sbreio’n arian gan fy mam, chwarae teg iddi hi.

Ar faes y frwydr oeddan ni, a’r brenin Henry (David Hughes, Fform Ffôr)  yn areithio’n danllyd i’n cymell i ladd y Ffrancod. “Cry God for Harry, England and St George” medda fo.

St George!!!!” oedd bonllef fyddarol hogia Fform Wan yn ôl. Ie, cri angerddol dros nawddsant Lloegr oedd fy ngeiriau cyntaf mewn drama lwyfan. Ychydig a wyddwn fy mod rai blynyddoedd wedyn yn codi ar fy nhraed gan ddal poster ym mhabell yr Urdd yn Aberystwyth pan oedd mab hyna’r teulu brenhinol ar fin gwneud araith, gan floeddio â’r un angerdd y geiriau: “Un dau wyth dau!”

 

Pwy wnaeth eich rhoi ar ben ffordd?

O ran mentoriaid, gan nad oedd Adran Ddrama fel y cyfryw yng ngholeg Aberystwyth ar y pryd, roedd darlithydd o’r Adran Addysg, Mr D Gareth Edwards yn cynhyrchu drama newydd bob blwyddyn gyda Chymdeithas Ddrama Gymraeg y myfyrwyr. Fy mraint fawr oedd cael rhannau blaen mewn dwy ddrama gan Saunders Lewis o dan gyfarwyddyd gwych Gareth.

Mentor arall yn y cyfnod cynnar hwnnw oedd y diweddar a thalentog Beryl Williams, hithau o Ddolgellau.

“Sefyll yn dda ar lwyfan” a “gad i mi dy gredu di” oedd ei dwy neges fawr i actorion ifanc, ac mi gofia’i nhw byth.

 

Pa waith actio proffesiynol fuoch chi’n ei wneud?

Mae fy niolch yn fawr iawn i Wilbert Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Cymru, am roi ei ffydd mewn talent ifanc go amrwd a dihyder, a’i ran yn fy natblygiad fel actor proffesiynol o 1970 i 1975.  Dechrau fel gwas bach llwyfan yn helpu cario setiau i fyny ac i lawr staerydd theatrau Cymru wnes i ar y pryd, yn cynnwys staer anfaddeuol o serth hen sinema Pwllheli, a chario fflatiau canfas mawr yn nannedd y gwynt dros ddihangfa dân i mewn i Theatr Ardudwy [yn Harlech].     Gwneud te i’r criw, sgubo’r llwyfan… a thywys actorion mawr i’r llwyfan o’u stafell wisgo mewn ysgolion drafftiog diarth.

Rwy’n cofio goleuo llwybr Mr Meredith Edwards i’r llwyfan amal i dro, a sicrhau ei fod yn saff yn y wings yn barod ar gyfer ei fynediad. Bu Meredith yn ffeind iawn efo fi yr adeg hynny. Un waith bu gorfod i mi gymryd rhan Dafydd Iwan yn nrama Y Claf Di-glefyd gan fod Dafydd ei hun o flaen ei well y prynhawn hwnnw am dynnu arwyddion lawr. Ond gwnes boitsh llwyr ohoni, gan bitshio cân Dafydd tua octave yn rhy uchel i’m cyd-actor Christine Pritchard, ac ymadael i’r wings mewn gwarth ac anobaith. Ond dyma Meredith ata’i. “Hidia befo ngwas i,” medda fo. “Ti’n gneud yn dda. Dwi’n gweld dyfodol i ti, gei di weld.”  Geiriau caredig ac amserol.

Ac er gwaetha trychineb Y Claf, tyfodd y rhannau a gynigiai Wilbert i mi, gan fy nghastio yn y diwedd mewn prif rannau, megis drama’r dramodydd abswrd byd-enwog Eugene Ionesco, gan berfformio o flaen y dramodydd ei hun. Ac wrth gwrs , y pantomeim Cymraeg arloesol. Perfformiais mewn pedair o’r rheiny am ddeg wythnos yr un dros y blynyddoedd.

Ond erbyn tua 1976 roedd teithio diddiwedd ledled Cymru wedi mynd yn drwm a blinderus, a’r sioeau eu hunain weithiau’n feichus o hen ffasiwn a braidd yn amherthnasol. Roedd nifer ohonom oedd yn byw yn ardal Bangor yn teimlo’r un peth. Ar y dechrau gwyntyllwyd yr anniddigrwydd hwnnw mewn sioeau a drefnwyd o fewn Cwmni Theatr Cymru mewn cynllun o’r enw Theatr Antur. Ond buan y gwelwyd nad oedd modd i’n gweledigaeth wrthryfelgar groch ac amharchus ni o theatr fodoli o fewn canllawiau’r Cwmni Theatr, ac yn 1977 fe dorron ni’n rhydd a mynd i Eisteddfod Wrecsam gyda’n sioe gyntaf. Croeso i’r Roial oedd ei henw, lle’r oeddem yn mynd ati i ddychanu a thynnu’r delwau i lawr mewn ffordd hwyliog o flaen cynulleidfa glwb. Bu’n llwyddiant ysgubol, a dyna ddechrau Theatr Bara Caws – ac mae’r cwmni “yna o hyd”!

Wedi cyfnod hwyliog iawn gyda rhaglen wythnosol ddychanol Pupur a Halen ar Radio Cymru, wnes i droi at fyd y teledu yn nechrau’r 1980au, mewn pryd wrth gwrs i ddyfodiad S4C. Bu’r ddegawd honno yn orlawn o waith teledu a ffilm Gymraeg ac yn cynnwys rhai o’m hoff rannau – Marathon, drama gyntaf S4C; cyfres ddychanol Y Cleciwr; Wiliam Jones – addasiad o nofel T Rowland Hughes; y cymeriad poblogaidd ‘Hyw Twm’ yn y gyfres Minafon; a thelediad o’m sioe un-dyn Val, sef portread o’r cenedlaetholwr Lewis Valentine. Ond mae un llais a wnes mewn cwta awr yn Stiwdio Atsain Caerdydd yn enwocach na nhw i gyd… llais y Storïwr ar Superted!

 

Beth yw eich hoff ddrama?

Roedd Draenen Ddu gan Theatr Bara Caws yn rhywbeth na wna’i fyth anghofio. Dirywiad cefn gwlad wrth gwrs, stori gyfarwydd. Ond mi gyflëwyd y neges ddirdynnol, nid drwy bregethu na dychanu, ond drwy fywyd dau berson, dau gariad, ac effaith yr argyfwng ar ddatblygiad eu perthynas nhw. Personoli’r neges. Arbennig…

 

Beth yw’r atgofion am actio yn y ffilm Un Nos Ola Leuad?

Mi ddarllenais y nofel yn yr ysgol dw i’n meddwl. Cofio clawr arbennig Kyffin Williams, a rhyw gof am awgrym o sgandal o’i chylch hi, yn enwedig ymysg aelodau o’r to hŷn capelaidd.

Rhan ‘Y Dyn’ wnes i chwarae yn ffilm arbennig Endaf Emlyn, gydag addasiad athrylithgar Gwenlyn Parry o’r nofel. Ni chwrddais erioed â Charadog Pritchard, ond deallais ei fod wedi sgrifennu llawer o’r nofel tra yn y cyfnod pan oedd yn night editor ar y Daily Herald yn Llundain. Mae hynna’n gwneud perffaith synnwyr, achos mae blas y nos ar y nofel. A hefyd y teimlad o sgrifennwr yn bell o’i ardal ei hun, yn alltud mewn dinas fawr, yn sgrifennu am ei ardal enedigol, neu ei fersiwn ef ohoni. Portread hunllefus ac afreal mewn rhannau, gyda thywyllwch meddyliol yn agos at yr wyneb o hyd.

Roedd gan Endaf gopi o lythyr ysgrifennodd Caradog Pritchard i’w gyfaill yr actor Hugh Griffith. Ynddo roedd yn ceisio perswadio Hugh Griffith o werth troi’r llyfr yn ffilm, ac yn  dychmygu Hugh fel dyn wedi dod yn ôl o’r carchar yn cerdded i fyny stryd ei bentref genedigol yng ngolau’r lleuad gan sbïo i mewn i ffenestri’r tai o un i un, a’i lygaid yn dywyll gan atgofion.

Dyna a wnes innau yn y rhan, drwy gyfarwyddyd mwyn Endaf a’i ddyn camera dawnus Ashley Rowe. Oherwydd manylder ei baratoadau, roedd Endaf yn gwybod i’r eiliad lle’r oedd o’n mynd i olygu. Ei gyfarwyddiadau yn amal oedd: “Sbïa i lawr rŵan, ac wedyn tro i edrych ar rywbeth yng nghornel ucha’r sgrin. Fan’na y bydda i’n torri, ‘li.” Deuwn adre gyda’r nos, yn meddwl nad oeddwn wedi actio o gwbwl! Ond wedi gweld y ffilm derfynol, gwelais grefft y cyfarwyddwr yn ei holl awyrgylch iasol.

 

Pa stori hoffech chi ei dramateiddio ar deledu?

Gan fod gen i sticar ar y car yn dweud ‘Cofiwch Dryweryn’, mi faswn i’n licio gweld drama Boddi Capel Celyn o safbwynt y bobol oedd yn byw yno. Mi actiais mewn drama-ddogfen o’r enw Porth y Byddar gan Manon Eames ynglŷn â hyn yn Theatr Clwyd dro’n ôl, ac mae’r holl waith ymchwil a’r cymeriadau gan Manon.

 

Beth yw eich atgof cynta’?

Cael dipyn bach o strancs, ddim eisio mynd i ysgol y babanod yn Nolgellau. Aeth fy nhad a mi yno, minnau yn crio’r holl ffordd. Ond dyma Mrs Wise y brifathrawes – dynes ddoeth ymhob ystyr – yn dweud: “Yli Dyfan, gei di ganu’r gloch ’ma i ddeud wrth y plant i gyd ddod nôl mewn o’r iard. Munud clywan nhw’r gloch mi ddown i gyd i mewn, gei di weld”. Dyma finnau yn ysgwyd y gloch hynny fedrwn i, a wir, mi ddaeth y plant i gyd i mewn yn ufudd. Teimlais yn dda ac mi stopiodd y crio.

 

Beth yw eich ofn mwya’?

Breuddwydio fy mod i yng ngofal un o’r plant, minnau’n esgeulus, a rhywbeth yn digwydd iddyn nhw.

 

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini? 

Slafio yn yr ardd. Mae hi’n un fawr a gwyllt.                                                                                                      

 

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Ew, straeon da a hir a doniol fydda i’n licio ar ôl bwyd, a does neb gwell i’w deud nhw na fy hen gyfaill John Pierce Jones. Ac mi geith fy hen bartneres Valmai Jones ddod hefyd i helpu efo’r chwerthin. Heb sôn am yr actor Fraser Caines, y cymeriad mawr o Borthaethwy. Bron i mi farw wrth chwerthin ar un o’i straeon o ryw dro.

Ar y fwydlen – Cregyn Gleision, Bara da o’r Deli, a digon o win gwyn. Wedyn pwdin o ffrwytha’r ardd. Mi wnes grymbl bendigedig o’r Eirin Abergwyngregyn sydd gen i rywdro, os ca’i ganmol fy hun, ‘de.

 

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Mae dau. Angie y wraig ar draeth yng Ngroeg, a Mabon fy ŵyr dwyflwydd pan fydd o’n dweud ta-ta wrth Taid.

 

Hoff wisg ffansi? 

Fel actor mae’r gwisgoedd ffansi yn cael mynd nôl i wardrob y cwmni, a minnau nôl i’r crys a’r jîns.

 

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Cael fy nal gan blismon yn gwneud dŵr mewn cornel gul nid nepell o [dafarn y] Glôb, Bangor. Ac yn waeth fyth yr heddlu’n gyrru’r symans i dŷ Mam, a hithau’n ei agor ac yn ei ddarllen dros y ffôn i mi! O na!

 

Gwyliau gorau?

Ynys Cyprus. Yn y Gorllewin. Gwasanaeth bys clên a rhad i rai o draethau hyfryta’r byd. A’r bwyd a’r retsina yn fendigedig.

 

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Mynd dros hen ffrae yn fy mhen, a meddwl: “Biti fyswn i wedi deud hynna wrtho fo!”

 

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Ches i erioed fwy o bleser na darllen Trysor y Môr-Ladron gan T Llew Jones pan oeddwn i tua wyth oed.

 

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Ar ddiwedd y ffilm Un Nos Ola Leuad mae’r ‘Dyn’ i’w weld yn cerdded i mewn i Lyn Du ac yn diflannu o dan y dŵr. Ar y shoot mi drïon nhw fy moddi fi y tro cynta’. Roeddwn i yn methu aros o dan y dŵr. Dod i’r wyneb pob gafael. Trio eto mewn wythnos, efo mwy o bwysau yn y wet-suit. Myn diawch, bobio fel corcyn i’r wyneb eto, pen-ôl yn gynta’. A’r trydydd cynnig, efo tunelli o blwm yn fy mhocedi, a bariau haearn fel Colditz o dan yr wyneb i mi dynnu fy hun odanodd, bu llwyddiant. A honna welwch chi ar y sgrîn…