Gyda’r Wasg a’r cyfryngau eisoes yn wan, fe’i gwanychwyd fymryn eto wythnos diwethaf wrth i wefan The National bron yn sicr gael ei dirwyn i ben (roedd “ymgynghori” ar ei dyfodol ddechrau’r wythnos hon). Rhedodd y fersiwn brint eisoes ei chwrs fisoedd yn ôl, ond hon fydd yr hoelen olaf. Mae’n siŵr y bydd oblygiadau hefyd i wasanaeth newyddion newydd Corgi.Cymru, sy’n defnyddio llawer iawn o gynnwys The National.