Mae Rhys Ifans yn un o actorion gorau gwledydd Prydain, heb sôn am Gymru.

Ac mae ganddo lond pen o Gymraeg a hanes hirfaith o gefnogi’r Pethe.

Yn lefnyn ifanc roedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith, ac mae wedi parhau yn gefnogwr brwd.

Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi rhoi arian a thynnu sylw at sawl ymgyrch i achub tafarnau yng Ngwynedd a Sir Benfro.

Ac mi fuodd o draw i ganolfan gelfyddydau’r Galeri yng Nghaernarfon i agor y sinema yno’n swyddogol yn 2018.