Nid atgyfodiad steil gwallt y ‘mullet’ ydi’r unig reswm tros boeni bod fersiwn newydd o’r 1970au ar fin dechrau.

Ar hyn o bryd, mae yna nifer o ffactorau sy’n ymddangos yn hynod o debyg i’r cyfnod hwnnw, o gynnydd mewn prisiau ynni i berthnasau diwydiannol ac awyrgylch maes gwleidyddiaeth.

Ar lawer ystyr, degawd blin, annifyr oedd yr un a ddechreuodd ac a orffennodd yng ngwledydd Prydain efo gwrthdaro a chwyno cyffredinol ac mae llawer o’r un elfennau yn wir rŵan.