Cefais blentyndod braf a dedwydd yn Heol Iscoed, Rhiwbeina.

Prin oedd y creature-comforts bryd hynny, wrth gwrs. Nid oedd gennym deledu lliw nac iPhone.

A chymharol gyntefig oedd ein bwyd (megis cig, llysiau – a spaghetti bolognese). Nid oedd sôn am arlleg, pupur du nac olew olewydd tan y 1970au! A dim ond rhyw bedwar bwyty oedd yng nghanol Caerdydd – i’w defnyddio ar adeg pen-blwyddi yn unig.