Rwyf newydd ddychwelyd o Ŵyl y Dyn Gwyrdd yn ardal Crughywel o Bowys. Er i mi berfformio yng ngŵyl One Tribe gyda fy mand, The Mermerings, y llynedd, dyma oedd y tro cyntaf ers y pandemig imi aros ar faes gŵyl am wythnos gyfan.

Ers 2016, mae fy nghwmni Dan Yr Haul wedi bod yn cynnal gweithdai i deuluoedd ar gyfer ‘Settlement’, sef gŵyl fach yn arwain lan i’r brif ŵyl ar y dydd Iau i’r dydd Sul. Rhan o waith Dan Yr Haul yw hwyluso gweithdai megis ‘Dysgu Cymraeg Trwy Ddrama’.