Fe ddechreuodd hi’n llawer rhy fore ar Stryd Santes Fair, gyda thorf fechan yn ymgynnull i daenu eli haul a glitter. Roedd teimlad chydig yn Eisteddfodol wrth i mi ddadebru: wynebau cyfarwydd yn pasio heibio gyda gwên, eraill yn stopio am sgwrs. Yn fuan wedyn, daeth y placardiau allan. Enfys o liwiau a negeseuon positif: ‘you are loved‘, ‘cydraddoldeb i bawb’, ’mae pobl cwiar yn ddilys’ – a’r rhai oedd yn cellwair: ‘Friend of Dorothy‘ a fy ffefryn personol: ‘Sodom