Rydw i newydd orffen ysgrifennu pennod newydd ar gyfer fy llyfr, Red Dragons, sydd yn adrodd hanes pêl-droed yng Nghymru ers i’r gêm ddechrau yn y wlad yma yn y 19eg ganrif.  Mae’r broses wedi gwneud i fi sylwi faint mae’r llwyddiant, a’r diwylliant o gwmpas y tîm cenedlaethol wedi trawsnewid ers argraffiad cyntaf y llyfr yn 2012.  Yr adeg hynny, doedd yna ddim arwydd byse’r deng mlynedd nesaf, heb os, y cyfnod gorau yn hanes y gêm yng Nghymru.