Wedi bod yn hel mwyar duon oedden nhw. Am ryw reswm, mae gan Elin, ei ferch, ryw angen sentimental i fynd â fo bob blwyddyn, er ei fod o’n colli amynedd y dyddiau hyn efo’r aeron bach duon. Mae ’na gymaint mwy o ddraen nag a fu yn y perthi, a mwyar duon y dyddiau hyn wastad ychydig yn rhy siarp, dim fel roedden nhw ers talwm. Bydd Elin yn chwerthin wrth glywed hyn – ‘Chi sy’n fwy pigog ac yn fwy siarp nag y buoch chi, Dad, dim y mwyar duon.’ Er ei fod o’n anghytuno, mae o’n gwybod hefyd ei bod h