Roedd Pride Cymru dros y penwythnos yng Nghaerdydd yn lliwgar, yn llawen, yn llon.

Roedd yn ddathliad anhygoel o’r ddynol ryw yn ei holl ogoniant ac amrywiaeth.

Roedd yn glytwaith gwych o wahanol liwiau, siapiau, cefndiroedd cymdeithasol ac economaidd,  crefyddau, safbwyntiau gwleidyddol, oed, rhywedd, a rhywioldeb, o bob rhan o Gymru a’r tu hwnt.

Roedd yno lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol, pobl draws ac anneuaidd, pobl cwiar, pobl arywiol a phobl heterorywiol.