Dydi’r rhan fwya’ ohonon ni ddim fel petaen ni wedi amgyffred yn llawn eto pa mor ddifrifol ydi’r rhagolygon economaidd.

Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi sleifio i’n bywydau ni wrth inni ddechrau dod i delerau eto â rhywbeth tebyg i fywyd normal a’r naid mewn chwyddiant wedi digwydd yn rhyfeddol o sydyn.

Mae’n gymharol hawdd diffodd systemau gwresogi yng nghanol yr ha’ a wnaeth yr Ha’ Anniddig ddim datblygu’n unol â’r darogan gwae, er gwaetha’r streiciau rheilffordd ysbeidiol.