Dychmygwch fyw mewn gwlad lle mae’r Llywodraeth am eich annog i yfed mwy o alcohol.

Does dim angen anogaeth ar y Cymry i yfed, wrth gwrs.

Mae mwy nag un o ddynion papurau newydd Llundain wedi mentro tros Glawdd Offa ar ddiwrnod y gêm rygbi fawr rhwng y Cymry a’r Saeson, a dychryn o weld maint y meddwi ar y bore cyn yr ornest fawr yng Nghaerdydd.