Mae Ysgrifennydd Cymru ac un o gyn Ysgrifenyddion Cymru wedi newid eu cân. Yn hytrach na chefnogi Rishi Sunak i arwain y Blaid Geidwadol, mae Robert Buckland ac Alun Cairns yn sydyn iawn wedi penderfynu bod Liz Truss yn well.

Yr economi a diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol ydi rheswm Syr Robert tros droi côt; y gallu i gadw’r Undeb ynghyd ydi achos troedigaeth Alun Cairns. Dim oll i’w wneud â’r ffaith eu bod yn gweld mai Liz Truss sydd am ennill a’u bod eisiau swyddi.