Gair gan y Gohebydd Seneddol

Naci, nid ein hannwyl olygydd sy’n eich cyfarch chi’r wythnos hon ddarllenwyr. Mae o ar ei wylia ers bron i wythnos bellach a fi, y Gohebydd Seneddol, sy’n cael y fraint o ysgrifennu’r golygyddol.

Ond mae yna un cwestiwn mawr wedi bod ar fy meddwl dros y dyddiau diwethaf ‘ma. Beth yn y byd dw i’n mynd i ysgrifennu amdano?!