Gyda mis Awst eisoes yn hedfan heibio, mae Eisteddfod Tregaron yn dechrau teimlo fel hen hanes.

Ond mae ambell un yn dal i gwyno. Tra bo’r rhan fwyaf o’r sawl sydd â barn ar y mater yn canmol Eisteddfod eleni fel llwyddiant mawr, mae rhai’n llai hael eu clod.

Ac un o’r cwynion rhyfeddaf i ymddangos oedd un ar wefan Cymru Fyw gan fusnes lleol yn cwyno nad oedd eu siop cigydd wedi elwa ryw lawer o bresenoldeb miloedd o Eisteddfodwyr yn Nhregaron.