Dw i’n cofio cwyno’r adeg yma llynedd nad oedd yna lawer o ddim byd newydd ar y bocs unwaith yr oedd yr Eisteddfod wedi gorffen. Mae pethau fymryn yn well eleni ac un o’r cyfresi newydd ar S4C ar hyn o bryd yw Gwyliau Gartref. Cyfres newydd ond teimlad cyfarwydd rhywsut, mae’r rhaglen sy’n dilyn dau griw ar wyliau byr yng Nghymru ar ddwy gyllideb wahanol yn gyfuniad o Codi Pac, Am Dro! a Hen Dŷ Newydd