Mae Mam yn meddwl ’mod i ddim yn gwybod. Am y botel siampaen a guddiwyd dan y sinc, am y bwrdd i wyth mewn bwyty sydd wedi ei gadw ar gyfer noson y canlyniadau, am y cerdyn ‘Llongyfarchiadau!’ a gafodd hi yn y ’steddfod, yn falŵns ac yn glityr ac yn falchder i gyd. Mae hi’n barod am fy llwyddiant i. Bydd popeth yn berffaith. Bydd hi’n falch ohona i.