Gyda’r busnes Jonathan Edwards AS rywsut yn dal i rygnu ymlaen ers dwy flynedd, cafodd Plaid Cymru sdincar wythnos diwethaf. Af i ddim i union fanylion ei achos. Wna i ddim chwaith bregethu am gymodi a maddeuant: mae’r rheiny’n ddau beth haws eu trafod na’u gwneud pan fo chi’n ddioddefwr.