Dw i’n dal fy ngwynt wrth i mi deipio wythnos yma – wedi sgrialu lawr yr M4, dadlwytho chwe bag sbwriel du llawn edafedd, cyfres gyfan o wyddoniaduron a set o lestri te o’r car, cyfarch y cathod bach a (man a man i fi fod yn onest yn y gwres ‘ma) tynnu fy mra: dw i adre a’n hwyr yn sgrifennu fy ngholofn. Ras wyllt i ddychwelyd i’r ‘byd go iawn’ ar ôl penwythnos arall yn dianc rhagddo.