Roeddwn i’n siomedig ac yn eithaf trist yr wythnos hon o glywed fod y BBC wedi penderfynu cael gwared â darllediadau’r canlyniadau pêl-droed sydd wedi bod yn rhan o sioe radio Sports Report ers y 1950au. Byddaf yn methu’r Classified Football Scores (er nad ydwyf yn deall yn union beth sydd yn eu gwneud yn classified).