Fe fu’r gitarydd Rhodri Daniel yn teithio Ewrop yn cefnogi rocars enwog megis Garbage a Pussy Riot. Ond pan ddaeth ei fand Estrons i ben, fe aeth drwy dwnnel tywyll a methu hyd yn oed gwrando ar gerddoriaeth…

Nôl yn y dyddiau cyn y Covid roedd Rhodri Daniel yn un o driawd oedd yn chwarae roc ffyrnig, aflafar ac annwyl.