Rhowch filoedd o Gymry mewn cae yn llawn dop o ddiwylliant, a be’ maen nhw’n wneud?

Cwyno am y tai bach!

Nid nad oedden nhw’n bethau sâl ar y naw, cofiwch.

Roedd angen i’r badell fod ar fwy o ongl, er mwyn i’r busnes lifo’n haws i’r gwaelodion.

Heb ddymp, heb ddim.

Un ai bod y badell ar fwy o ongl, neu gynyddu cryfder y fflysh 300%, fel mae Llywodraeth Cymru am i gynghorau sir wneud efo treth cyngor perchnogion tai haf…