Dydw i erioed wedi bod yn rhywun sy’n hoff o newidiadau mawr yn fy mywyd. Ar y cyfan, mae’n well gen i rygnu ‘mlaen yn gwneud cyn lleied â phosib. ‘Sgen i ddim awydd enfawr i gyflawni pethau, i weithio’n arbennig o galed na mynd i’r unman chwaith. Yn y bôn, dwi’n fodlon ar fodoli, mae hynny’n ddigon i mi. Coginio bwyd da, cael peint, cerdded y ci, a chyffredinol fwynhau’r pethau bychain heb boeni am stryffaglu â dim byd arall.