Y tywyllwch oedd yn synnu Mari bob tro. Y sylweddoliad fod yr hyn oedd hi’n galw’n nos pan oedd hi adref mor llygredig efo golau strydoedd a llafnau melyn goleuadau ceir yn torri’r tywyllwch. Roedd Haf wedi sylwi hefyd, wrth iddi roi ei phen i lawr i gysgu yn y babell, ei llais yn grychau o flinder a’r mymryn lleiaf o ofn.

‘Ma’n dywyll, dydi Mam.’

‘Yndi… Wel, mae’n nos dydi, yr aur.’

‘Ia, ond mae’n dywyll go-iawn fa’ma.’