Am amryw resymau, fuodd hi ddim yn bosibl i fi gyrraedd Tregaron ar gyfer yr Eisteddfod, ond fe fuodd yn Wythnos Eisteddfod yma, serch hynny, diolch i’r teledu a’r cyfryngau ar-lein.

A gwnaeth sawl peth argraff ddofn arna i.

Yn bennaf, dwi’n meddwl, didwylledd a gonestrwydd dau o enillwyr y prif gystadlaethau llenyddol, sef Esyllt Maelor, enillydd y Goron, a Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith.