Mae Gemau’r Gymanwlad wastad yn brofiad chwerw felys. Mae’n gyfle prin i weld athletwyr yn cynrychioli Cymru mewn campau y byddant fel arfer yn cystadlu ynddynt o dan faner Jac yr Undeb.

Yna wrth gwrs, rydych chi’n cofio beth mae’r gemau hyn yn ei gynrychioli ac yn ei ddathlu, yn cofio tarddiad a hanes y British Empire Games gynt.