Go brin y bu yna gyfnod mwy pryderus i weithwyr cyffredin yn y Deyrnas Unedig ers degawdau. Nid sôn am yr argyfwng costau byw ydw i yma’n benodol, ond yn hytrach hawliau gweithwyr. Mae’r ymosodiadau arnynt wedi bod yn digwydd ers sbel. Cyhoeddodd Llywodraeth Prydain yn ddiweddar y bydd yn diddymu’n rhannol Ddeddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 – un o ychydig gyflawniadau gwirioneddol y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd sy’n atgyfnerthu llaw undebau llafur mewn gwrthdaro diwydiannol, gan atal sefydli