Fe weles i fe, ond welodd e ddim ohona i. Do’n i ddim yn siwr taw fe oedd e am sbel fach – o’dd llif o bobol a llen o ddafne’ glaw mân rhynto ni. Ond wedyn weles i’r ferch oedd yn ei ymyl e, a gweld taw ei ferch e o’dd hi. A droiodd e’i ben, a weles i ei wyneb e’n glir – ie, Emrys o’dd e.