Wrth wylio pawb yn dod at ei gilydd yn Nhregaron, a gweld Ceredigion, fy milltir sgwâr, yn cael ei dathlu yn genedlaethol – dw i’n teimlo chwiw o frwdfrydedd. Er na fydda i ar y Maes eleni, mae yna falchder yn fy mrest, rhywbeth sy’n codi fy nghalon yn llythrennol. Mae’r cyfle wedi dod o’r diwedd i bawb ddod at ei gilydd a dathlu, yn nyddiau egwan y pandemig.