Fe ddaeth yr haf yn ffyrnicach nag erioed fis yma, gyda’r tymheredd yn torri pob record flaenorol. Yn wahanol i nifer o bobl, dydi’r haf erioed wedi bod fy hoff adeg o’r flwyddyn – i’r gwanwyn aiff y wobr honno – achos hyd yn oed mewn haf arferol dw i’n stryffaglu. Alla i ddim delio â gwres mawr, dw i’n teimlo’n flinedig yn gyson, yn methu cysgu, mae fy nghroen i’n sychu gyda chur pen yn gefndir cyson i’r stori.