Mae’n ymddangos bod gyrfa Boris Johnson am orffen fel y dechreuodd, trwy golli cyfarfodydd pwysig o’r pwyllgor argyfwng Cobra.

Rhaid i ni atgoffa ein hunain o hynny, rhag ofn i ryw fath o chwedloniaeth wreiddio, fod y cyn-Etoniad druan wedi cael rhyw fath o gam ac mai sbeit oedd yn gyfrifol am ei gwymp.

Chwedl anghywir arall yw ei fod wedi cal ‘y pethau mawr yn iawn’ – mewn geiriau eraill, mai dim ond ar fanion dibwys y methodd o.