Mae o wedi dechrau gwneud rhestrau.

Ar gefn derbynebau, neu mewn llyfr nodiadau bach sydd ar yr oergell. Yn y dechrau, roedd Malan yn ei herian yn chwareus am yr ymdrech newydd sbon i fod yn drefnus – Ti’n mynd yn hen! Rêl dy dad! Ac yn y dechrau, roedd yntau’n chwerthin efo hi, y ddau’n mwynhau’r llithriad araf, cysurus i gyfnod heulog rhwng bod yn ifanc a bod yn ganol oed.