Ddechrau’r wythnos roedd cwpwl o elusennau yn galw am greu swydd gyhoeddus newydd ar bwrs y wlad.

Yn ôl Oxfam Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, rydan ni angen Comisiynydd Menywod os yw “Cymru am fod yn genedl ffeminyddol, a bodloni’r uchelgais o Gymru fel y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw”.