Bob hyn a hyn mae Golwg yn codi’r wal dalu ar un o golofnau’r cylchgrawn, i bawb gael mwynhau, dysgu ac ehangu gorwelion…

Mae gan Gymru gwricwlwm newydd. Mae’n addo rhoi ymdeimlad o ‘gynefin’ a pherthyn go-iawn i ein plant. Mae’n addo magu plant ‘iach’, ‘hyderus’. Mae’n addo datblygu ‘dinasyddion moesegol gwybodus’ a fydd, fel oedolion, yn ‘barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd’.

Y cwestiwn yw, sut y gellir cyflawni hyn pan fo cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o athrawon yng Nghymru wedi cael eu trwytho yn naratif yr Ymerodraeth Brydeinig? Sut y gellir ei gyflawni pan nad yw’r rhan fwyaf o athrawon yng Nghymru hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn addysgu o safbwynt gwladychwyr?

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaethau sydd wedi llywio, nid yn unig y cwricwlwm addysg newydd, ond hefyd Cynllun Gwrth-hiliol Cymru. Y crynodeb o’r canfyddiadau?

“Mae ffeithiau anghydraddoldeb hiliol yn system addysg Cymru bellach wedi’u tystiolaethu a’u dogfennu’n dda. Mae cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o rai cymunedau lleiafrifol yn cael ei rwystro gan gwricwlwm sydd wedi methu â chynrychioli eu hanes, a chyfraniadau eu cymunedau, gorffennol a phresennol. Cânt eu rhwystro gan ddiffyg modelau rôl cadarnhaol mewn gweithlu addysg nad yw’n adlewyrchu’n ddigonol proffil ethnig amrywiol Cymru; ac maent yn cael eu rhwystro gan brofiadau o hiliaeth yn eu bywyd ysgol bob dydd.”

Dyna eiriau’r Athro Charlotte Williams, un o awduron Cynllun Gwrth-hiliol Cymru.

Mewn ymdrech yn deillio o fwriad da i gynnwys ‘Hanes Du’ mewn gwersi, mae wedi dod yn beth cyffredin i siarad am a dangos delweddau o ddynion du yn cael eu crogi, manylu ar arferion artaith caethwasiaeth a chanmol dawn athletwyr Du llwyddiannus ar y meysydd chwarae.

Ond mae’r gwersi hyn yn creu problemau i blant Du a Brown:

Mae plant du yn wynebu delweddau trawmatig sy’n eu portreadu fel dioddefwyr sydd wedi’u dad-ddynoli. Nid yw plant gwyn yn cael eu heffeithio mor ddwfn ganddo a gallant wneud datganiadau oeraidd wrth iddynt gael eu dadsensiteiddio i ddioddefaint bodau dynol eraill nad ydynt yn edrych fel nhw. A fyddai’r un athrawon yn cyflwyno delweddau o blant gwyn sydd wedi cael eu curo a’u llofruddio ar sgrin y dosbarth?

Nid Hanes ‘Du’ yw caethwasiaeth. Mae gan bobl ddu hanes cyfoethog a chadarnhaol cyn ac ar ôl cyfnod y Fasnach Gaethwasiaeth Drawsatlantig. Hefyd, mae’r pwnc hwn yn tueddu i gael ei ddysgu heb unrhyw sôn am y gwrthryfeloedd a ddigwyddodd, a sut y barnwyd ei fod yn anghyfreithlon dim ond pan nad oedd bellach yn hyfyw yn ariannol i Lywodraeth Prydain.

Mae pobl dduon yn alluog ac wedi rhagori mewn Gwyddoniaeth, Llenyddiaeth, Busnes a Chyllid, Technoleg Gwybodaeth a’r Celfyddydau… ond ni sonnir rhyw lawer, os o gwbl, am y llwyddiannau hyn yn addysg Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod mewn gwirionedd yn addysgu fersiwn anghywir o hanes mewn llawer o achosion.

Mae myfyrwyr y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol yn cael y neges fod Robert Peel, Syr Winston Churchill a Napoleon Bonaparte yn ddynion â nodweddion i’w hedmygu. Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn hiliol yn gyhoeddus a hyd yn oed yn gyfrifol am farwolaethau miliynau o bobl Ddu a Brown. Ffeithiau a adawyd allan o’r naratif mewn addysg Gymraeg.

Wrth gwrs, ni ddylid gadael y pethau hyn allan o addysg ychwaith. Y broblem yw sut y maent yn cael eu cyflwyno ac mae’r cydbwysedd hwnnw ar goll. Os ydym yn gobeithio datblygu plant a fydd yn gadael yr ysgol gyda meddwl iach ac agwedd hyderus, sut y gallwn wneud hyn pan fydd rhai yn cael eu peledu â negeseuon eu bod yn wan ac yn israddol? Sut allwn ni fagu plant i ddod yn ddinasyddion y byd pan rydan ni wedi dweud wrthynt ar hyd eu bywydau bod pobl Ddu a Brown yn bobl eraill, ac mai nhw yw hil y ‘mwyafrif’?

Mae’n amlwg bod angen inni newid ein meddylfryd. Yr un peth yw Hanes Pobl Dduon a Hanes Cymru. Fel Cymry mae’n bryd cydnabod y genedl amrywiol a diwylliannol gyfoethog sydd gennym ac mae hyn yn ddechrau ym myd addysg. Os na wnawn ni, ni fydd amcanion y cwricwlwm newydd yn cael eu cyflawni a bydd ein plant dan anfantais.