Ar drothwy’r trydydd prawf rygbi yn Cape Town, Alun Rhys Chivers sydd wedi bod yn holi’r sylwebydd bytholwyrdd Gareth Charles…

Mae Gareth Charles yn dweud y bydd “buddugoliaeth wych” a hanesyddol tîm rygbi Cymru dros Dde Affrica a’r “canlyniad ffantastig” yn amlwg yn hwb enfawr i dîm Wayne Pivac ar drothwy’r trydydd prawf hollbwysig yn Cape Town ddydd Sadwrn (16 Gorffennaf).