Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Ynys Môn wedi dweud y bydd yn cyflwyno ei enw er mwyn cynrychioli’r etholaeth yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mae gan Rhun ap Iorwerth fwyafrif o bron i 10,000 o bleidleisiau, ond mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd yn awyddus i wneud ei farc yn San Steffan.

Y Ceidwadwr Cymreig Virginia Crosbie sy’n dal sedd San Steffan Môn gyda 35.5% o’r bleidlais ar hyn o bryd, a mwyafrif o 1,968 o bleidleisiau.