Dros y cyfnod clo, daeth 17 o fenywod Cricieth ynghyd i weithio ar brosiect brodwaith o gaeau Map y Degwm yr ardal.

Y degwm oedd y dreth o 10% o gynnyrch neu gyfoeth lleol oedd yn gorfod cael ei dalu i goffrau’r eglwys yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd angen i’r mapiau fod yn gywir er mwyn dangos pwy oedd yn gorfod talu beth, gydag enwau caeau a’u perchnogion arnyn nhw.