Os ydi Llywodraeth Cymru o ddifri ynghylch amddiffyn datganoli, dyma’r cyfle. Nid trwy gael dylanwad ar ras arweinydd y Ceidwadwyr, ond trwy gael dylanwad ar y farn yng Nghymru.

Go brin y bydd yr un o’r 11 ymgeisydd (wrth fynd i’r Wasg) yn dweud gair o gwbl am Gymru; rhywbeth o bosib am yr Alban, ond dim amdanon ni. A dyna danlinellu pam fod rhaid cael ymgyrch.